Ezekiel 31:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Holl ehediaid y nefoedd a drigant ar ei chyff hi, a holl fwystfilod y maes a fyddant ar ei changhennau hi;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r adar i gyd yn clwydo ar ei boncyff marw, a'r anifeiliaid gwyllt yn cerdded dros ei changhennau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth holl adar y nefoedd i fyw ar ei boncyff, a'r holl anifeiliaid gwylltion i'w brigau.