Ezekiel 31:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan sŵn ei chwymp hi y cynhyrfais y cenhedloedd, pan wneuthum iddi ddisgyn i uffern gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll; a holl goed Eden, y dewis a'r gorau yn Libanus, y dyfradwy oll, a ymgysurant yn y tir isaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y gwledydd i gyd yn crynu pan glywon nhw amdani'n syrthio, pan wnes i ei thaflu i lawr i fyd y meirw gyda pawb arall sydd yn y Pwll. Yn y byd tanddaearol cafodd coed Eden i gyd a'r gorau o goed Libanus, pob un oedd wedi cael digon o ddŵr, eu bodloni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwneuthum i'r cenhedloedd grynu gan su373?n ei chwymp, pan ddygais hi i lawr i Sheol gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll; felly cysurir yn y tir isod holl goed Eden sy'n cael eu dyfrhau, y rhai gorau a mwyaf dewisol yn Lebanon.