Ezekiel 31:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Holl ehediaid y nefoedd a nythent yn ei cheinciau hi, a holl fwystfilod y maes a lydnent dan ei changhennau hi; ie, yr holl genhedloedd lluosog a eisteddent dan ei chysgod hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yr adar i gyd yn nythu yn ei brigau, a'r anifeiliaid gwyllt yn geni rhai bach dan ei changhennau. Roedd y gwledydd mawr i gyd yn byw dan ei chysgod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd holl adar y nefoedd yn nythu yn ei cheinciau, a'r holl anifeiliaid gwylltion yn epilio dan ei changau, a'r holl genhedloedd mawrion yn byw yn ei chysgod.