Ezekiel 31:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y cedrwydd yng ngardd DUW ni allent ei chuddio hi: y ffynidwydd nid oeddynt debyg i'w cheinciau hi, a'r ffawydd nid oeddynt fel ei changhennau hi; ac un pren yng ngardd yr Arglwydd nid ydoedd debyg iddi hi yn ei thegwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Doedd coed cedrwydd eraill gardd Duw ddim yn cystadlu â hi. Doedd canghennau'r coed pinwydd ddim byd tebyg; a'r coed planwydd yn ddim o'u cymharu â hi. Doedd dim un o goed gardd Duw mor hardd â hon!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni allai cedrwydd o ardd Duw gystadlu hi, ac nid oedd y pinwydd yn cymharu o ran ceinciau; nid oedd y ffawydd yn debyg iddi o ran cangau, ac ni allai'r un goeden o ardd Duw gystadlu hi o ran prydferthwch.