Ezekiel 32:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gwnaf i bobloedd lawer ryfeddu wrthyt, a'u brenhinoedd a ofnant yn fawr o'th blegid, pan wnelwyf i'm cleddyf ddisgleirio o flaen eu hwynebau hwynt; a hwy ar bob munud a ddychrynant, bob un am ei einioes, yn nydd dy gwymp.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd pobl mewn sioc o glywed beth fydd wedi digwydd i ti. Bydd brenhinoedd wedi dychryn am eu bywydau pan fydda i'n chwifio fy nghleddyf o'u blaenau nhw. Ar y diwrnod y byddi di'n syrthio byddan nhw'n crynu trwyddynt yn ofni am eu bywydau eu hunain.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaf i lawer o bobl frawychu o'th achos, a bydd eu brenhinoedd yn crynu mewn braw o'th blegid pan ysgydwaf fy nghleddyf o'u blaenau; byddant yn ofni am eu heinioes bob munud ar ddydd dy gwymp.