Ezekiel 32:24 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yno y mae Elam a'i holl liaws o amgylch ei bedd, wedi eu lladd oll, a syrthio trwy y cleddyf, y rhai a ddisgynasant yn ddienwaededig i'r tir isaf, y rhai a barasant eu harswyd yn nhir y rhai byw; eto hwy a ddygasant eu gwaradwydd gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae Elam yna, a beddau ei byddin enfawr hithau ym mhobman. Pob un wedi ei ladd gan y cleddyf. Hwythau'n baganiaid wedi mynd i lawr i ddyfnder y ddaear, ond ar un adeg yn codi dychryn ar bawb drwy'r byd. Bellach maen nhw'n gorwedd mewn cywilydd gyda phawb arall sy'n disgyn i'r Pwll!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae Elam a'i holl luoedd o amgylch ei bedd, i gyd wedi eu lladd a syrthio trwy'r cleddyf; y mae'r holl rai a fu'n achosi braw yn nhir y byw i lawr yn y tir isod gyda'r dienwaededig, ac yn dwyn eu gwarth gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll.