Ezekiel 32:25 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yng nghanol y rhai lladdedig y gosodasant iddi wely ynghyd â'i holl liaws; a'i beddau o'i amgylch: y rhai hynny oll yn ddienwaededig, a laddwyd â'r cleddyf: er peri eu harswyd yn nhir y rhai byw, eto dygasant eu gwaradwydd gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll: yng nghanol y lladdedigion y rhoddwyd ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae hithau'n gorffwys gyda'r meirw, a beddau ei byddin enfawr ym mhobman. Paganiaid wedi eu lladd gan y cleddyf am eu bod wedi codi dychryn ar bawb drwy'r byd. Bellach maen nhw'n gorwedd mewn cywilydd gyda phawb arall sy'n disgyn i'r Pwll!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaed gwely iddi ymysg y lladdedigion, gyda'i holl luoedd o amgylch ei bedd; y maent i gyd yn ddienwaededig, wedi eu lladd 'r cleddyf. Am iddynt achosi braw yn nhir y byw, y maent yn dwyn eu gwarth gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll, ac yn gorwedd ymysg y lladdedigion.