Ezekiel 32:27 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ni orweddant gyda'r cedyrn a syrthiasant o'r rhai dienwaededig, y rhai a ddisgynasant i uffern â'u harfau rhyfel: a rhoddasant eu cleddyfau dan eu pennau; eithr eu hanwireddau fydd ar eu hesgyrn hwy, er eu bod yn arswyd i'r cedyrn yn nhir y rhai byw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn nhw ddim gydag arwyr dewr y gorffennol, wedi eu claddu'n anrhydeddus gyda'i harfau — gyda'r cleddyf wedi ei osod dan y pen a'r darian yn gorwedd ar yr esgyrn. Roedden nhw hefyd yn codi dychryn ar bawb drwy'r byd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Onid ydynt yn gorwedd gyda'r rhyfelwyr a syrthiodd yn ddienwaededig, a mynd i lawr i Sheol gyda'u harfau rhyfel, a rhoi eu harfau dan eu pennau? Daeth cosb eu troseddau ar eu hesgyrn, oherwydd bod braw ar y cryfion hyn trwy dir y byw.