Ezekiel 33:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywed hefyd, fab dyn, wrth feibion dy bobl, Cyfiawnder y cyfiawn nis gwared ef yn nydd ei anwiredd: felly am annuwioldeb yr annuwiol, ni syrth efe o'i herwydd yn y dydd y dychwelo oddi wrth ei anwiredd; ni ddichon y cyfiawn chwaith fyw oblegid ei gyfiawnder, yn y dydd y pecho.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ddyn, dywed wrth dy bobl, ‘Fydd daioni y bobl sy'n gwneud beth sy'n iawn ddim yn eu hachub nhw pan fyddan nhw'n gwrthryfela. A fydd drygioni pobl ddrwg ddim yn eu condemnio nhw os gwnân nhw newid eu ffyrdd a stopio gwneud drwg. Fydd yr holl bethau da mae rhywun wedi ei gwneud ddim yn ei achub os ydy e'n dewis pechu wedyn.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Fab dyn, dywed wrth dy bobl, 'Ni fydd cyfiawnder y cyfiawn yn ei waredu pan fydd yn pechu, ac ni fydd drygioni'r drygionus yn peri iddo syrthio pan fydd yn troi oddi wrth ei ddrygioni; ni all y cyfiawn fyw trwy ei gyfiawnder pan fydd yn pechu.'