Ezekiel 33:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eto chwi a ddywedwch nad union ffordd yr ARGLWYDD. Barnaf chwi, tŷ Israel, bob un yn ôl ei ffyrdd ei hun.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac eto, dych chi bobl Israel yn dweud, ‘Dydy beth mae'r Meistr yn ei wneud ddim yn iawn!’ Felly, bobl Israel, bydda i'n barnu pob un ohonoch chi ar sail beth dych chi wedi ei wneud.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Eto fe ddywedwch, 'Nid yw ffordd yr Arglwydd yn gyfiawn'! O du375? Israel, fe farnaf bob un ohonoch yn l ei ffyrdd."