Ezekiel 33:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn y degfed mis o'r ddeuddegfed flwyddyn o'n caethgludiad ni, ar y pumed dydd o'r mis, y daeth un a ddianghasai o Jerwsalem ataf fi, gan ddywedyd, Trawyd y ddinas.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ddeuddeg mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y pumed diwrnod o'r degfed mis, dyma ffoadur oedd wedi llwyddo i ddianc o Jerwsalem yn dod ata i a dweud, “Mae'r ddinas wedi syrthio!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar y pumed dydd o'r degfed mis yn neuddegfed flwyddyn ein caethglud, daeth ataf ddyn oedd wedi dianc o Jerwsalem a dweud, "Cwympodd y ddinas!"