Ezekiel 33:22 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A llaw yr ARGLWYDD a fuasai arnaf yn yr hwyr, cyn dyfod y dihangydd, ac a agorasai fy safn, nes ei ddyfod ataf y bore; ie, ymagorodd fy safn, ac ni bûm fud mwyach.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yr ARGLWYDD wedi fy nghyffwrdd i y noson cynt, ac erbyn i'r ffoadur gyrraedd y bore wedyn roeddwn i'n gallu siarad eto. Oeddwn, roeddwn i'n gallu siarad; doeddwn i ddim yn fud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y noson cyn iddo gyrraedd, yr oedd llaw yr ARGLWYDD wedi dod arnaf, ac yr oedd wedi agor fy ngenau cyn i'r dyn ddod ataf yn y bore. Felly yr oedd fy ngenau'n agored, ac nid oeddwn bellach yn fud.