Ezekiel 33:24 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ha fab dyn, preswylwyr y diffeithwch hyn yn nhir Israel ydynt yn llefaru, gan ddywedyd, Abraham oedd un, ac a feddiannodd y tir; ninnau ydym lawer, i ni y rhoddwyd y tir yn etifeddiaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ddyn, mae'r rhai sy'n byw yng nghanol adfeilion Israel yn siarad fel yma: ‘Un dyn oedd Abraham, ac eto llwyddodd i feddiannu'r wlad i gyd! Mae yna lot fawr ohonon ni. Mae'r wlad yma'n siŵr o gael ei rhoi i ni!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Fab dyn, y mae'r rhai sy'n byw yn yr adfeilion yna yng ngwlad Israel yn dweud, 'Un dyn oedd Abraham, ac fe feddiannodd y wlad; ond yr ydym ni'n llawer, ac yn sicr y mae'r wlad wedi ei rhoi'n feddiant i ni.'