Ezekiel 33:25 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Yr ydych yn bwyta ynghyd â'r gwaed, ac yn dyrchafu eich llygaid at eich gau dduwiau, ac yn tywallt gwaed; ac a feddiennwch chwi y tir?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, dywed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dych chi'n bwyta cig sydd â'r gwaed yn dal ynddo, yn addoli eilun-dduwiau ac yn lladd pobl ddiniwed. Ydych chi wir yn meddwl y bydd y wlad yn cael ei rhoi i chi?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, dywed wrthynt, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yr ydych yn bwyta cig gyda'r gwaed, yn codi eich golygon at eich eilunod, ac yn tywallt gwaed; a fyddwch felly'n meddiannu'r wlad?