Ezekiel 33:27 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Fel mai byw fi, trwy y cleddyf y syrth y rhai sydd yn y diffeithwch; a'r hwn sydd ar wyneb y maes, i'r bwystfil y rhoddaf ef i'w fwyta; a'r rhai sydd yn yr amddiffynfeydd ac mewn ogofeydd, a fyddant feirw o'r haint.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dywed hyn wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, bydd y rhai sy'n byw yng nghanol yr adfeilion yn cael eu lladd gan y cleddyf, a phawb ar y tir agored yn fwyd i anifeiliaid gwylltion, a bydd y rhai sy'n cuddio mewn cuddfannau saff ac ogofâu yn cael eu taro'n farw gan heintiau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywed wrthynt, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Cyn wired 'm bod yn fyw, bydd y rhai a adawyd yn yr adfeilion yn syrthio trwy'r cleddyf, y sawl sydd allan yn y wlad yn cael ei roi i'r anifeiliaid gwylltion i'w ddifa, a'r rhai sydd mewn amddiffynfeydd ac ogofeydd yn marw o bla.