Ezekiel 33:29 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chânt wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, pan wnelwyf y tir yn anrhaith, ie, yn anrhaith, am eu holl ffieidd‐dra a wnaethant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddan nhw'n sylweddoli mai fi ydy'r ARGLWYDD pan fydda i'n troi'r wlad yn anialwch diffaith o achos yr holl bethau ffiaidd maen nhw wedi eu gwneud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan fyddaf wedi gwneud y wlad yn ddiffeithwch anial oherwydd yr holl ffieidd-dra a wnaethant.'