Ezekiel 33:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond pan welo y gwyliedydd y cleddyf yn dyfod, ac ni utgana mewn utgorn, a'r bobl heb eu rhybuddio; eithr dyfod o'r cleddyf a chymryd un ohonynt, efe a ddaliwyd yn ei anwiredd, ond mi a ofynnaf ei waed ef ar law y gwyliedydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond beth petai'r gwyliwr heb ganu'r corn hwrdd i rybuddio'r bobl pan welodd y fyddin yn dod? Mae rhywun yn cael ei ladd. Mae'r person hwnnw'n marw am ei fod e'i hun wedi pechu, ond bydda i'n dal y gwyliwr yn gyfrifol am achosi iddo gael ei ladd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond pe byddai'r gwyliedydd yn gweld y cleddyf yn dod ac yn peidio chanu'r utgorn i rybuddio'r bobl, a'r cleddyf yn dod ac yn lladd un ohonynt, yna, er i hwnnw gael ei ladd am ei ddrygioni, byddwn yn dal y gwyliedydd yn gyfrifol am ei waed.'