Ezekiel 33:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan ddywedwyf wrth yr annuwiol, Ti annuwiol, gan farw a fyddi farw; oni leferi di i rybuddio yr annuwiol o'i ffordd, yr annuwiol hwn a fydd marw yn ei anwiredd, ond ar dy law di y gofynnaf ei waed ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan dw i'n dweud wrth rywun drwg, ‘Rwyt ti'n siŵr o farw,’ a tithau ddim yn ei rybuddio fod rhaid iddo newid ei ffyrdd, bydd e'n marw am ei fod wedi pechu a bydda i yn dy ddal di'n gyfrifol ei fod wedi marw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os dywedaf fi wrth y drygionus, 'O ddrygionus, byddi'n sicr o farw', a thithau'n peidio llefaru i'w rybuddio i droi o'i ffordd, yna, er i'r drygionus farw am ei ddrygioni, byddaf yn dy ddal di'n gyfrifol am ei waed.