Ezekiel 33:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond os rhybuddi di yr annuwiol o'i ffordd, i ddychwelyd ohoni; os efe ni ddychwel o'i ffordd, efe fydd farw yn ei anwiredd, a thithau a waredaist dy enaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond os byddi di wedi ei rybuddio i newid ei ffyrdd, ac yntau wedi gwrthod gwneud hynny, bydd e'n marw am ei fod wedi pechu ond byddi di wedi achub dy hun.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond os byddi'n rhybuddio'r drygionus i droi o'i ffordd, ac yntau'n gwrthod, fe fydd farw am ei ddrygioni, ond fe fyddi di'n arbed dy fywyd.