Ezekiel 34:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Wele fi yn erbyn y bugeiliaid: a gofynnaf fy mhraidd ar eu dwylo hwynt, a gwnaf iddynt beidio â phorthi y praidd; a'r bugeiliaid ni phorthant eu hun mwy: canys gwaredaf fy mhraidd o'u safn hwy, fel na byddont yn ymborth iddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn dweud, “Dw i yn erbyn y bugeiliaid! Dw i'n ei dal nhw'n gyfrifol, a fyddan nhw ddim yn cael gofalu am y praidd o hyn ymlaen. Na, fydd dim mwy o ofalu am neb ond nhw eu hunain! Gân nhw ddim bwyta'r defaid eto; bydda i'n achub y defaid o'i gafael nhw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yr wyf yn erbyn y bugeiliaid, ac yn eu dal yn gyfrifol am fy mhraidd. Byddaf yn eu hatal rhag gofalu am y praidd, rhag i'r bugeiliaid mwyach ofalu amdanynt eu hunain. Gwaredaf fy mhraidd o'u genau, ac ni fyddant mwyach yn fwyd iddynt.