Ezekiel 34:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y golledig a geisiaf, a'r darfedig a ddychwelaf, a'r friwedig a rwymaf, a'r lesg a gryfhaf: eithr dinistriaf y fras a'r gref; â barn y porthaf hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n mynd i chwilio am y rhai sydd ar goll, a dod â'r rhai sydd wedi crwydro yn ôl adre. Dw i'n mynd i rwymo briwiau y rhai sydd wedi eu hanafu, a helpu'r rhai sy'n wan. Ond bydd y rhai cyfoethog a chryf yn cael eu dinistrio. Bydda i'n gofalu eu bod nhw'n cael beth maen nhw'n ei haeddu!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Byddaf yn ceisio'r ddafad golledig ac yn dychwelyd y wasgaredig; byddaf yn rhwymo'r ddolurus ac yn cryfhau'r wan. Ond byddaf yn difa'r fras a'r gref; byddaf yn eu bugeilio chyfiawnder.