Ezekiel 34:27 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhydd pren y maes ei ffrwyth, a'r tir a rydd ei gynnyrch, a byddant yn eu tir eu hun mewn diogelwch, ac a gânt wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, pan dorrwyf rwymau eu hiau hwynt, a'u gwared hwynt o law y rhai oedd yn mynnu gwasanaeth ganddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd ffrwythau'n tyfu ar y coed yng nghefn gwlad, a chnydau yn tyfu o'r tir. Byddan nhw i gyd yn teimlo'n saff. Byddan nhw'n gwybod mai fi ydy'r ARGLWYDD pan fydda i'n torri'r iau a'u gollwng nhw'n rhydd o afael y rhai wnaeth eu caethiwo nhw,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd coed y maes yn rhoi eu ffrwyth, a'r tir ei gnydau, a bydd y bobl yn ddiogel yn eu gwlad. Byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan fyddaf yn torri barrau eu hiau ac yn eu gwaredu o ddwylo'r rhai sy'n eu caethiwo.