Ezekiel 34:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fy nefaid a grwydrasant ar hyd yr holl fynyddoedd, ac ar bob bryn uchel: ie, gwasgarwyd fy mhraidd ar hyd holl wyneb y ddaear, ac nid oedd a'u ceisiai, nac a ymofynnai amdanynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae fy nefaid wedi crwydro dros y mynyddoedd a'r bryniau uchel i gyd. Maen nhw ar wasgar drwy'r byd i gyd, a does neb yn edrych a chwilio amdanyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Crwydrodd fy mhraidd dros yr holl fynyddoedd a bryniau uchel; aethant ar wasgar dros yr holl ddaear, ond nid oedd neb yn eu ceisio nac yn chwilio amdanynt.