Ezekiel 34:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd DDUW, am fod fy mhraidd yn ysbail, a bod fy mhraidd yn ymborth i holl fwystfilod y maes, o eisiau bugail, ac na cheisiodd fy mugeiliaid fy mhraidd, eithr y bugeiliaid a'u porthasant eu hun, ac ni phorthasant fy mhraidd:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, meddai'r ARGLWYDD, y Meistr, mae fy nefaid yn cael eu llarpio gan anifeiliaid gwylltion am fod dim bugail wedi gofalu amdanyn nhw. Mae'r bugeiliaid wedi gofalu amdanyn nhw eu hunain yn lle mynd i edrych am y defaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cyn wired 'm bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, oherwydd i'r praidd fynd yn ysglyfaeth ac yn fwyd i'r holl anifeiliaid gwylltion, am nad oedd fugail, ac oherwydd i'm bugeiliaid beidio chwilio am fy mhraidd ond gofalu amdanynt eu hunain yn hytrach nag am y praidd,