Ezekiel 35:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn ôl dy lawenydd di am feddiant tŷ Israel, oherwydd ei anrheithio, felly y gwnaf i tithau: anrhaith fyddi di, mynydd Seir, ac Edom oll i gyd; fel y gwypont mai myfi yw yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan gafodd gwlad Israel ei dinistrio roeddet ti'n dathlu. Ond nawr mae'r un peth yn mynd i ddigwydd i ti! Bydd Edom, ie pawb drwy'r wlad i gyd, yn cael eu dinistrio! Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd iti lawenhau pan wnaed etifeddiaeth tu375? Israel yn ddiffeithwch, fel hyn y gwnaf i tithau: byddi di'n ddiffeithwch, o Fynydd Seir, ti a'r cyfan o Edom. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.'