Ezekiel 36:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Oherwydd eu bod yn dywedyd wrthych, Yr wyt ti yn difa dynion, ac yn gwneuthur dy genhedloedd yn amddifaid:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Mae pobl yn cael hwyl ar dy ben di, ac yn dweud, “Mae Israel yn wlad sy'n dinistrio ei phobl ei hun — fydd dim plant ar ôl yno!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd bod pobl yn dweud wrthych, "Yr ydych yn difa pobl ac yn amddifadu eich cenedl o blant",