Ezekiel 36:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ha fab dyn, pan oedd tŷ Israel yn trigo yn eu tir eu hun, hwy a'i halogasant ef â'u ffordd ac â'u gweithredoedd eu hun: eu ffordd ydoedd ger fy mron i fel aflendid gwraig fisglwyfus.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ddyn, pan oedd pobl Israel yn byw yn eu gwlad eu hunain, roedden nhw wedi llygru'r wlad drwy'r ffordd roedden nhw'n ymddwyn. Roedd yn aflan, fel gwraig pan mae'n dioddef o'r misglwyf.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Fab dyn, pan oedd tu375? Israel yn byw yn eu gwlad eu hunain, yr oeddent yn ei halogi trwy eu ffyrdd a'u gweithredoedd; yr oedd eu ffyrdd i mi fel halogrwydd misol gwraig.