Ezekiel 36:20 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddaethant at y cenhedloedd y rhai yr aethant atynt, hwy a halogasant fy enw sanctaidd, pan ddywedid wrthynt, Dyma bobl yr ARGLWYDD, ac o'i wlad ef yr aethant allan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ond wedyn, roedden nhw'n dal i sarhau fy enw sanctaidd ar ôl cyrraedd y gwledydd hynny. Roedd pobl yn dweud amdanyn nhw, ‘Maen nhw i fod yn bobl yr ARGLWYDD, ond maen nhw wedi colli eu tir!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
I ble bynnag yr aethant ymysg y cenhedloedd, yr oeddent yn halogi fy enw sanctaidd; oherwydd fe ddywedwyd amdanynt, 'Pobl yr ARGLWYDD yw'r rhain, ond eto fe'u gyrrwyd allan o'i wlad.'