Ezekiel 36:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mi a sancteiddiaf fy enw mawr, yr hwn a halogwyd ymysg y cenhedloedd, yr hwn a halogasoch chwi yn eu mysg hwynt; fel y gwypo y cenhedloedd mai myfi yw yr ARGLWYDD, medd yr Arglwydd DDUW, pan ymsancteiddiwyf ynoch o flaen eich llygaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n mynd i ddangos mor wych ydy fy enw i — yr enw dych chi wedi ei sarhau ym mhobman. Bydd y gwledydd i gyd yn deall mai fi ydy'r ARGLWYDD. Bydd beth fydd yn digwydd i chi yn dangos yn glir iddyn nhw mor wych ydw i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Amlygaf sancteidd-rwydd fy enw mawr, a halogwyd gennyt ti ymysg y cenhedloedd. Yna bydd y cenhedloedd yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, medd yr Arglwydd DDUW, pan fyddaf trwoch chwi yn amlygu fy sancteiddrwydd yn eu gu373?ydd.