Ezekiel 36:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny proffwyda, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; oherwydd iddynt eich anrheithio, a'ch llyncu o amgylch, i fod ohonoch yn etifeddiaeth i weddill y cenhedloedd, a myned ohonoch yn watwargerdd tafodau, ac yn ogan pobloedd:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly ddyn, proffwyda a dweud: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Mae dy elynion wedi ymosod arnat ti o bob cyfeiriad, yn dinistrio ac yn dy gam-drin di. Mae gwledydd wedi dwyn dy dir di. Mae pobl yn hel straeon ac yn gwneud jôcs amdanat ti.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
felly proffwyda a dywed: Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd iddynt eich gwneud yn ddiffeithwch ac yn anrhaith o bob tu, nes ichwi fynd yn eiddo i weddill y cenhedloedd, yn destun siarad ac yn enllib i'r bobl,