Ezekiel 36:30 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Amlhaf hefyd ffrwyth y coed, a chynnyrch y maes, fel na ddygoch mwy waradwydd newyn ymysg y cenhedloedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd digonedd o ffrwythau'n tyfu ar y coed, a bydd cnydau'r caeau i gyd yn llwyddo. Fyddwch chi byth eto'n gorfod cywilyddio am fod y gwledydd o'ch cwmpas chi'n eich gweld chi'n diodde o newyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Byddaf yn cynyddu ffrwythau'r coed a chnydau'r maes, rhag ichwi byth eto ddioddef dirmyg newyn ymysg y cenhedloedd.