Ezekiel 36:33 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Yn y dydd y glanhawyf chwi o'ch holl anwireddau, y paraf hefyd i chwi gyfanheddu y dinasoedd, ac yr adeiledir yr anghyfaneddleoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Pan fydda i'n eich glanhau chi o'ch pechodau, bydda i'n dod â phobl yn ôl i fyw yn y trefi. Bydd yr adfeilion yn cael eu hadeiladu eto.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Ar y dydd y glanhaf chwi o'ch holl gamweddau, fe gyfanheddir y dinasoedd ac fe adeiledir yr adfeilion.