Ezekiel 36:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny, mynyddoedd Israel, gwrandewch air yr Arglwydd DDUW; Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth y mynyddoedd ac wrth y bryniau, wrth yr afonydd ac wrth y dyffrynnoedd, wrth y diffeithwch anghyfanheddol, ac wrth y dinasoedd gwrthodedig, y rhai a aeth yn ysbail ac yn watwar i'r rhan arall o'r cenhedloedd o'u hamgylch:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly Israel, gwrando ar neges y Meistr, yr ARGLWYDD. Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrth y mynyddoedd a'r bryniau, y dyffrynnoedd a'r ceunentydd, yr holl adfeilion a'r trefi gwag sydd wedi eu dinistrio a'i dilorni gan y gwledydd sydd ar ôl o dy gwmpas —
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
felly, O fynyddoedd Israel, clywch air yr Arglwydd DDUW. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth y mynyddoedd a'r bryniau, wrth y nentydd a'r dyffrynnoedd, wrth yr adfeilion diffaith a'r dinasoedd anghyfannedd, sydd wedi mynd yn ysglyfaeth ac yn wawd i weddill y cenhedloedd o amgylch;