Ezekiel 36:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny proffwyda am dir Israel, a dywed wrth y mynyddoedd ac wrth y bryniau, wrth yr afonydd ac wrth y dyffrynnoedd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Wele, yn fy eiddigedd ac yn fy llid y lleferais, oherwydd dwyn ohonoch waradwydd y cenhedloedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly dw i eisiau i ti broffwydo am wlad Israel, a dweud wrth y mynyddoedd a'r bryniau, y dyffrynnoedd a'r ceunentydd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n wyllt gyda'r gwledydd yna am dy fod ti wedi gorfod eu diodde nhw'n dy fychanu di.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, proffwyda am dir Israel, a dywed wrth y mynyddoedd a'r bryniau, wrth y nentydd a'r dyffrynnoedd, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Wele fi'n llefaru yn fy eiddigedd a'm llid, oherwydd ichwi ddioddef dirmyg y cenhedloedd.