Ezekiel 37:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly y proffwydais fel y'm gorchmynasid; a'r anadl a ddaeth ynddynt, a buant fyw, a safasant ar eu traed, yn llu mawr iawn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, dyma fi'n proffwydo fel roedd Duw wedi dweud wrtho i a dyma nhw'n dechrau anadlu. Roedden nhw'n fyw! A dyma nhw'n sefyll ar eu traed, yn un fyddin enfawr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Proffwydais fel y gorchmynnwyd imi, a daeth anadl iddynt ac aethant yn fyw, a chodi ar eu traed yn fyddin gref iawn.