Ezekiel 37:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Wele fi yn cymryd pren Joseff, yr hwn sydd yn llaw Effraim, a llwythau Israel ei gyfeillion, a mi a'u rhoddaf hwynt gydag ef, sef gyda phren Jwda, ac a'u gwnaf hwynt yn un pren, fel y byddont yn fy llaw yn un.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dywed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i gymryd y ffon sy'n cynrychioli Joseff a'r llwythau sydd gydag e, a'i chysylltu hi gyda ffon Jwda. Byddan nhw'n un ffon yn fy llaw i.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ateb hwy, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Byddaf yn cymryd ffon Joseff, sydd yn nwylo Effraim, a llwythau Israel mewn cysylltiad ag ef, ac yn uno hi ffon Jwda, ac yn eu gwneud yn un ffon, fel y byddant yn un yn fy llaw.'