Ezekiel 37:22 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gwnaf hwynt yn un genedl o fewn y tir ym mynyddoedd Israel, ac un brenin fydd yn frenin iddynt oll: ni byddant hefyd mwy yn ddwy genedl, ac ni rennir hwynt mwyach yn ddwy frenhiniaeth:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n mynd i'w gwneud nhw'n un genedl eto, ar fynyddoedd Israel. Un brenin fydd ganddyn nhw, a fyddan nhw byth eto wedi eu rhannu'n ddwy wlad ar wahân.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaf hwy'n un genedl yn y wlad, ar fynyddoedd Israel, a bydd un brenin drostynt i gyd; ni fyddant byth eto'n ddwy genedl, ac ni rennir hwy mwyach yn ddwy deyrnas.