Ezekiel 37:23 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ni ymhalogant mwy wrth eu heilunod, na thrwy eu ffieidd‐dra, nac yn eu holl anwireddau: eithr cadwaf hwynt o'u holl drigfaon, y rhai y pechasant ynddynt, a mi a'u glanhaf hwynt; fel y byddont yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn DDUW iddynt hwythau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fyddan nhw ddim yn llygru eu hunain yn addoli eu heilunod ffiaidd, nac yn gwrthryfela yn fy erbyn i. Dw i'n mynd i'w hachub nhw er eu bod nhw wedi troi oddi wrtho i a phechu. Dw i'n mynd i'w glanhau nhw. Nhw fydd fy mhobl i, a fi fydd eu Duw nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni fyddant yn eu halogi eu hunain eto 'u heilunod, eu pethau atgas a'u holl droseddau, oherwydd byddaf yn eu gwaredu o'u holl wrthgilio, a fu'n ddrygioni ynddynt, ac fe'u glanhaf; byddant hwy'n bobl i mi, a minnau'n Dduw iddynt hwy.