Ezekiel 37:25 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Trigant hefyd yn y tir a roddais i'm gwas Jacob, yr hwn y trigodd eich tadau ynddo; a hwy a drigant ynddo, hwy a'u meibion, a meibion eu meibion byth; a Dafydd fy ngwas fydd dywysog iddynt yn dragywydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘Byddan nhw'n byw yn y tir rois i i'm gwas Jacob, lle roedd eu hynafiaid yn byw. Byddan nhw'n cael byw yno, a'u plant, a'u disgynyddion am byth. Fy ngwas Dafydd fydd eu pennaeth nhw am byth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Byddant yn byw yn y wlad a roddais i'm gwas Jacob, y wlad lle bu'ch hynafiaid yn byw; byddant hwy a'u plant a phlant eu plant yn byw yno am byth, a bydd fy ngwas Dafydd yn dywysog iddynt am byth.