Ezekiel 38:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thi a ddywedi, Mi a af i fyny i wlad maestrefydd; af at y rhai llonydd, y rhai sydd yn preswylio yn ddiogel, gan drigo oll heb gaerau, ac heb drosolion na dorau iddynt,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dw i am ymosod ar Israel. Gwlad o drefi heb waliau na giatiau a barrau i'w hamddiffyn! Fydd ei phobl ddim yn disgwyl y peth; maen nhw'n teimlo mor saff!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac yn dweud, "Af i fyny yn erbyn gwlad o bentrefi diamddiffyn, ac ymosod ar bobl heddychol sy'n byw'n ddiogel pob un ohonynt yn byw heb furiau na barrau na phyrth.