Ezekiel 38:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Seba, a Dedan, a marchnadyddion Tarsis hefyd, â'u holl lewod ieuainc, a ddywedant wrthyt, Ai i ysbeilio ysbail y daethost ti? ai i ysglyfaethu ysglyfaeth y cesglaist y gynulleidfa? ai i ddwyn ymaith arian ac aur, i gymryd anifeiliaid a golud, i ysbeilio ysbail fawr?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd Sheba a Dedan a marchnatwyr Tarshish yn gofyn, “Wyt ti wedi dod i ysbeilio? Wyt ti wedi casglu dy fyddin i reibio'r wlad — cymryd yr arian a'r aur, y gwartheg a phopeth arall sydd ganddyn nhw?”’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd Sheba a Dedan, a marchnatwyr Tarsis a'i holl bentrefi, yn dweud wrthynt, "Ai i anrheithio y daethost? A gesglaist dy lu i ysbeilio, i gymryd arian ac aur, i gipio da ac eiddo, i gymryd llawer o ysbail?"'