Ezekiel 38:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny proffwyda, fab dyn, a dywed wrth Gog, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Y dydd hwnnw, pan breswylio fy mhobl Israel yn ddiofal, oni chei di wybod?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly ddyn, proffwyda a dywed wrth Gog: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bryd hynny, pan fydd fy mhobl Israel yn teimlo'n saff, bydd rhywbeth yn tynnu dy sylw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Felly, fab dyn, proffwyda a dywed wrth Gog, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Y diwrnod hwnnw, pan fydd fy mhobl Israel yn byw'n ddiogel, oni fyddi'n cyffroi?