Ezekiel 38:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wedi dyddiau lawer yr ymwelir â thi; yn y blynyddoedd diwethaf y deui i dir wedi ei ddwyn yn ei ôl oddi wrth y cleddyf, wedi ei gasglu o bobloedd lawer yn erbyn mynyddoedd Israel, y rhai a fuant yn anghyfannedd bob amser: eithr efe a ddygwyd allan o'r bobloedd, a hwynt oll a drigant mewn diogelwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl amser hir, byddi'n cael dy alw i wlad Israel. Gwlad wedi ei hadfer ar ôl cael ei dinistrio gan ryfel. Gwlad â'i phobl wedi eu casglu at ei gilydd ar y mynyddoedd oedd wedi bod yn anial am amser hir. Pobl wedi dod adre ac yn teimlo'n saff yn eu gwlad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar l dyddiau lawer fe'th gynullir, ac mewn blynyddoedd i ddod byddi'n mynd yn erbyn gwlad sydd wedi ei hadfer ar l rhyfel, a'i phobl wedi eu casglu o blith llawer o genhedloedd ar fynyddoedd Israel, lle bu diffeithwch cyhyd; fe'u dygwyd allan o blith y bobloedd, ac yn awr y maent i gyd yn byw'n ddiogel.