Ezekiel 39:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Bydd hefyd yn y dydd hwnnw, i mi roddi i Gog le bedd yno yn Israel, dyffryn y fforddolion o du dwyrain y môr: ac efe a gae ffroenau y fforddolion: ac yno y claddant Gog a'i holl dyrfa, a galwant ef Dyffryn Hamon‐gog.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘Bydda i wedi paratoi mynwent anferth yn Israel i Gog a'i filwyr — yn Nyffryn y Teithwyr, i'r dwyrain o'r Môr Marw. Bydd y dyffryn yn cael ei gau i deithwyr, am fod Gog a'i fyddin i gyd wedi eu claddu yno. Byddan nhw'n galw'r dyffryn yn Ddyffryn Hamon-Gog o hynny ymlaen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"'Y diwrnod hwnnw fe roddaf i Gog feddrod yn Israel, yn nyffryn y rhai sy'n croesi i'r dwyrain at y mr; bydd yn rhwystr i'r rhai sy'n croesi drosodd, oherwydd bydd Gog a'i holl luoedd wedi eu claddu yno, ac fe'i gelwir yn Ddyffryn Hamon Gog.