Ezekiel 39:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a neilltuant wŷr gwastadol, y rhai a gyniweiriant trwy y wlad i gladdu gyda'r fforddolion y rhai a adawyd ar wyneb y ddaear, i'w glanhau hi: ymhen saith mis y chwiliant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘Ar ddiwedd y saith mis bydd criwiau o ddynion yn cael eu penodi i chwilio drwy'r wlad am unrhyw gyrff sydd wedi eu gadael ar ôl, a'u claddu nhw. Byddan nhw gwneud yn siŵr fod y tir wedi ei lanhau'n gyfan gwbl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Neilltuir dynion i fynd trwy'r wlad yn gyson i gladdu'r rhai a adawyd ar wyneb y ddaear, er mwyn ei glanhau; ar derfyn y saith mis byddant yn dechrau chwilio.