Ezekiel 39:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Tithau fab dyn, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Dywed wrth bob rhyw aderyn, ac wrth holl fwystfilod y maes, Ymgesglwch, a deuwch; ymgynullwch oddi amgylch at fy aberth yr ydwyf fi yn ei aberthu i chwi, aberth mawr ar fynyddoedd Israel, fel y bwytaoch gig, ac yr yfoch waed.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“A ti, ddyn, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Galw'r adar a'r anifeiliaid gwylltion at ei gilydd. Dywed wrthyn nhw, “Dewch yma. Dw i wedi paratoi lladdfa — gwledd i chi ar fynyddoedd Israel! Dewch i fwyta eu cnawd ac yfed eu gwaed.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Fab dyn, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Galw ar bob math o adar ac ar yr holl anifeiliaid gwylltion, 'Ymgasglwch a dewch at eich gilydd o bob tu i'r aberth yr wyf yn ei baratoi i chwi, sef yr aberth mawr ar fynyddoedd Israel; a byddwch yn bwyta cnawd ac yn yfed gwaed.