Ezekiel 39:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gosodaf fy ngogoniant ymysg y cenhedloedd, a'r holl genhedloedd a gânt weled fy marnedigaeth yr hon a wneuthum, a'm llaw yr hon a osodais arnynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘Bydda i'n dangos fy ysblander i'r cenhedloedd. Bydd y gwledydd i gyd yn fy ngweld i'n eu barnu nhw, ac mor rymus ydw i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Byddaf yn gosod fy ngogoniant ymysg y cenhedloedd, a bydd yr holl genhedloedd yn gweld y farn a wneuthum a'r llaw a osodais arnynt.