Ezekiel 39:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ar fynyddoedd Israel y syrthi, ti a'th holl fyddinoedd, a'r bobloedd sydd gyda thi: i'r ehediaid, i bob rhyw aderyn, ac i fwystfilod y maes, y'th roddaf i'th ddifa.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddi di a dy filwyr, a phawb arall sydd gyda ti, yn syrthio'n farw ar fynyddoedd Israel. Byddi'n fwyd i bob math o adar rheibus ac anifeiliaid gwylltion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar fynyddoedd Israel y syrthi, ti a'th holl fyddin a'r bobloedd sydd gyda thi; fe'th rof yn fwyd i bob math o adar ysglyfaethus ac i'r anifeiliaid gwylltion.