Ezekiel 4:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedais, O ARGLWYDD DDUW, wele, ni halogwyd fy enaid, ac ni fwyteais furgyn neu ysglyfaeth o'm hieuenctid hyd yr awr hon; ac ni ddaeth i'm safn gig ffiaidd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“O, na! ARGLWYDD, Meistr, Dw i erioed wedi bwyta dim byd sy'n ‛aflan‛ o'r blaen — fel carcas anifail oedd wedi marw ohono'i hun, neu un gafodd ei ladd gan anifeiliaid gwylltion, neu unrhyw gig sy'n ‛aflan‛.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebais, "O Arglwydd DDUW, nid wyf erioed wedi fy halogi fy hun; o'm hieuenctid hyd yn awr nid wyf wedi bwyta dim a fu farw nac a ysglyfaethwyd, ac ni ddaeth cig aflan i'm genau."