Ezekiel 4:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cymer i ti hefyd wenith, a haidd, a ffa, a ffacbys, a milet, a chorbys, a dod hwynt mewn un llestr, a gwna hwynt i ti yn fara, dros rifedi y dyddiau y gorweddych ar dy ystlys: tri chan niwrnod a deg a phedwar ugain y bwytei ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Wedyn cymer ŷd, haidd, ffa, ffacbys, miled a sbelt, a'u cadw mewn llestr gyda'i gilydd. Defnyddia'r cymysgedd i wneud bara i ti dy hun. Dyna fyddi di'n ei fwyta pan fyddi'n gorwedd ar dy ochr am dri chant naw deg diwrnod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Cymer iti wenith a haidd, ffa a phys, miled a cheirch, a'u rhoi mewn un llestr, a gwna fara ohonynt; byddi'n ei fwyta yn ystod y tri chant naw deg o ddyddiau y byddi'n gorwedd ar dy ochr.